Cefndir
Dwyrain Afon Menai yw’r safle dyframaethu pwysicaf yng Nghymru gyfan, a’r ardal ffermio cregyn gleision unigol fwyaf yn y DU i gyd. Mae llwyddiant yr ardal hon yn deillio o’r amgylchedd naturiol unigryw sy’n berffaith ar gyfer cregyn gleision; a hefyd yr amddiffyniad cyfreithiol (a elwir yn “Orchymyn Pysgodfa”) sy’n caniatàu i ffermwyr cregyn gleision lleol dyfu cregyn heb ofni y byddant yn cael eu dwyn gan eraill. Mae’r Gorchymyn hefyd yn ymdrin â chasglu cregyn gleision gwyllt yn yr ardal.
Ers datganoli, mae pysgodfa cregyn gleision yn Afon Menai wedi bod dan reolaeth Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai (MSFOMA), a gafodd y pwerau hyn gan Lywodraeth Cymru yn 2010. Ym Mawrth 2022, mae’r “Gorchymyn Pysgodfa” ar gyfer Afon Menai i fod i ddod i ben. Bydd ailosod y Gorchymyn Pysgodfa hwn o gymorth i Gymru gynnal ei safle blaenllaw mewn dyframaethu yn y DU, ac yn sicrhau swyddi a busnesau hirdymor yn yr economi leol.
Mae’r Gorchymyn newydd yn berthnasol i ffermio pysgod cregyn yn unig. Ni fydd yn gosod unrhyw gyfyngiadau na rheolaethau newydd ar weithgareddau dydd i ddydd eraill yn yr ardal. Mae’r Gorchymyn Pysgodfa newydd hwn yn hanfodol i ddyfodol ffermwyr pysgod cregyn. I bawb arall yn yr ardal, “busnes fel arfer” ydyw.
Beth sy’n cael ei gynnig?
Rydym yn argymell ailosodiad tebyg am debyg o’r “Gorchymyn Pysgodfa” sy’n bodoli ar hyn o bryd. Prin iawn yw ardaloedd sy’n addas ar gyfer dyframaethu cregyn gleision yn ôl ein profiad a’r wyddoniaeth. Ers i’r Gorchymyn Pysgodfa presennol gael ei sefydlu 59 o flynyddoedd yn ôl, mae ffermwyr cregyn gleision Cymru wedi adnabod y llefydd gorau i ffermio a chynaeafu cregyn gleision yn Afon Menai. Nid oes argymhelliad i newid faint o ffermio cregyn gleision na chasglu â dwylo
Dangosir lleoliad yr ardal ffermio cregyn gleision presennol yn nwyrain Afon Menai ar y map isod.
Beth yw’r amserlen?
Cyflwynodd MSFOMA gais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i ailosod y Gorchymyn Pysgodfa presennol yn Awst 2018. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru gan ddarparu gwybodaeth ychwanegol iddynt ers hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi Gorchymyn drafft, ac yng ngwanwyn 2021, bydd hyn yn cael ei hysbysebu fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
Mae MSFOMA yn awyddus i ymgynghori â’r gymuned leol a grwpiau rhanddeiliaid er mwyn annog ymateb ffafriol i’r Gorchymyn Pysgodfa newydd. Bydd unrhyw gynrychioliadau a dderbynnir yn cael eu hystyried gan MSFOMA a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd cyn i benderfyniad ar gymeradwyo’r Gorchymyn gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Manylion Pellach
Mae’n sefydliad anibynnol nid er elw. Mae ei aelodaeth yn cynnwys 2 gynrychiolydd o’r diwydiant pysgota, ac 1 cynrychiolydd yr un o Gyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn. Cyngor Tref Biwmares, Cyngor Dinas Bangor a Phrifysgol Bangor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn mynychu cyfarfodydd chwarterol, ac fe’i cadeirir gan Alan Winstone, arbenigwr pysgodfeydd annibynnol o Ynys Môn.
Nid yw Gorchymyn Pysgodfa yn creu unrhyw hawliau newydd, ond trwy breifateiddio’r hawliau pysgota y mae’n eu caniatàu ar gyfer rheoli a thrin pysgod cregyn yn rhagweithiol. Gall hefyd reoleiddio’r gwaith o gasglu cregyn gleision gwyllt â llaw trwy system trwyddedu gydag amodau priodol megis isafswm meintiau a lle a phryd y gall cynaeafu gymryd lle.
Nid yw hyn yn effeithio ar bysgotwyr sy’n pysgota ar y lan neu o gychod, ac nid yw ychwaith yn eich atal rhag casglu mwydod neu grancod i’w defnyddio fel abwyd.
Mae ffermio cregyn gleision yn cael ei wneud yn union ar wely’r môr - ni roddir unrhyw rwydi nag offer ar y lan. Dros y blynyddoedd, mae pysgotwyr trwyddedig o bryd i’w gilydd wedi casglu cregyn gleision hefyd pan fo niferoedd cregyn gleision gwyllt wedi cyrraedd lefelau lle gellid eu cynaeafu.
Ynglŷn â ffermio cregyn gleision
Fel arfer mae’n cymryd 2 flynedd i’r hadau cregyn gleision i gyrraedd maint y farchnad Yn ystod y cyfnod hwn gall y cregyn gleision gael eu symud gan y ffermwyr cregyn gleision o ardaloedd rhynglanwol i ardaloedd islanwol er mwyn sicrhau goroesedd, twf ac ansawdd
Mae hadau’r cregyn gleision yn y lleoliadau hyn yn setlo o’r plancton ar y coblau a’r creigiau sy’n dyddio’n ôl i Oes yr Iâ diwethaf. Er mwyn niweidio’r cynefinoedd gwely môr hyn, mae’r ffermwyr cregyn gleision yn aros hyd nes bod y cregyn gleision ifanc yn cronni haen o fwd oddi tanynt eu hunain. Mae hyn yn digwydd fel arfer yn y cyfnod rhwng Awst a Hydref. Ar ôl mis Hydref, mae’r cregyn gleision ifanc yn cael eu chwipio ymaith gan dywydd stormus yr hydref a’r gaeaf, gan adael y.
Mae’r broses hon wedi ei hailadrodd yn flynyddol dros y 50 mlynedd ddiwethaf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyrchu hadau cregyn gleision ar welyau gwyllt Bae Morcambe a Bar Caernarfon wedi dod yn llai dibynadwy, o bosib o ganlyniad i newid hinsawdd.
Mae ffermwyr cregyn gleision yn cydweithio â gwyddonwyr yma yng Ngogledd Cymru i ddatblygu ffyrdd eraill o gasglu hadau cregyn gleision, sydd wedi’i brofi i fod yn ffynhonnell fwy rhagweladwy mewn gwledydd eraill - dengys y llun isod rai o’r cregyn gleision hyn yn tyfu ar raffau yn agos at Ynys Seiriol.
Mae MSFOMA a’r ffermwyr pysgod cregyn yn cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod ffermio cregyn gleision yn gydnaws â’r gofynion cyfreithiol i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd o fewn yr ardaloedd AGA ac ACA Rydym hefyd yn gweithio gyda gwyddonwyr o Brifysgol Bangor i astudio effeithiau posib ffermio cregyn gleision ar yr amgylchfyd morol. Mae llawer o’r astudiaethau hyn wedi eu cyhoeddi mewn cylchgronnau gwyddonol, ac wedi rhoi eu sêl bendith i ffermio cregyn gleision.
Fydd hi’n bosib i mi…..?
Manylion Cyswllt ar gyfer MSFOMA a Llywodraeth Cymru yw:-
- MSFOMA: info@msfoma.org neu drwy’r post i MSFOMA, Porth Penrhyn, Bangor, LL57 4HN.
- Llywodraeth Cymru: MarineandFisheries@gov.Wales neu drwy’r post i Afon Menai (Dwyrain) Gorchymyn Arfaethedig Pysgodfa, Is-adran y Môr a Physgodfeydd, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3 UR.
Gellir lawrlwytho PDF o’r diweddariad hwn i’w argraffu yma.